YSTAFELL Y BABANOD


Mae gan ystafell y babanod awyrgylch dawel, gariadus a chyfforddus. Bydd ddiwrnod eich un bach yn cael ei llenwi efo ymchwilio ac archwilio wrth i ni eu helpu i brofi pethau am y tro cyntaf.
Byddwn yn cadw at drefn bwydo a chysgu eich cartref mor agos ag y gallwn ni.

Bydd y babanod yn cael mynd am dro bob dydd drwy goedwig Gerddi Botaneg Treborth, dros Bont y Borth ac o amgylch Ynys Tysilio. Byddwch yn cael gwybod manylion ddiwrnod eich un bachchi gan ei weithwraig allweddol.


Ystod Oedran – 3 mis – 18 mis

YSTAFELL Y PLANTOS

Pan mae eich un bach chi’n barod i ymuno yn ystafell y plantos, bydd yn dechrau mentro’n ddiogel fel sy’n addas i’w oed er mwyn gwthio’r terfynau fel rhan naturiol o’i ddatblygiad plentyn.

Bydd ein qm ystafell y plantos yn hybu eich un bach chi I ddatblygu ei sgiliau corfforol, deallusol, ieithyddol, emosiynol a chymdeithasol trwy ystod eang o weithgareddau wedi eu cynllunio.


Ystod Oedran 18 mis – 2.5 mlwydd

YSTAFELL CYN-YSGOL

Mae’r ystafell cyn-ysgol yn mynd â datblygiad eich plantos i’r lefel nesaf. Rydym yn ymwybodol mai’r hyn a wnawn ni yn yr ystafell yma yn y pen draw yw paratoi'r plant ar gyfer y cam enfawr nesaf i fyny i’r ysgol fawr!

Rydym eisiau gwneud yn siwr eu bod yn barod ar gyfer yr her hon. Yn yr ystafell cyn-ysgol rydym yn cyflwyno mwy o strwythur i drefn y ddiwrnod, gyda chyfnodau grŵp ffocws i ddatblygu sgiliau gwrand, canolbwyn2o a siarad.

Ystod Oedran 2.5 mlwydd – 4 mlwydd

CLWB AR ÔL YSGLOL


Rydym yn codi plant o ysgolion ardal Bangor a rhai ardaloedd cyfagos, yn ddibynnol ar argaeledd.

Unwaith eu bod yn ôl yn y Clwb Ar Ôl Ysgol, gall y plant ddewis ymlacio ar ol ddiwrnod prysur yn yr ysgol neu ddewis o ystod o adnoddau i’w cadw’n brysur. Mae gennymdeledu, gemau cyfrifiadurol, amrywiaeth o deganau adda ar gyfr eu hoedran, gemau a phosau, defnyddiau celf a chrew a mwy.

Mae plant y Clwb Ar Ôl Ysgol hefyd yn cael mynediad i’r man chwarae (os yw’r tywydd yn caniatau).

CHWARAE TU ALLAN...

Rydan ni am i’r plant chwarae allan gymaimt ag y gallan nhw! Mae llain chwarae’r feithrinfa yn eang, yn ddiogel ac yn lle saff i blant gael chwarae. Rydan ni wedi bod yn lwcus awn i gael derbyn ariannu ar ffurf gran2au i’n helpu ni i ailwampio’r llain chwarae er mwyn cyfoethogi amser y plant oddi allan a’u cyfleoedd i ddysgu.


Cafodd y llain chwarae ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.

CYSYLLTU

Gadewch i ni wybod sut fedrwn ni eich helpu. Anfonwch neges sydyn neu galwch ni ar

Ffôn - 01248 371242