
CLWB GWYLIAU
Mae ein clwb gwyliau ar agor yn ystod gwyliau Ysgol ar gyfer plant 4(derbyn) – 12 oed. Rydym yn cynllunio amrywiaeth o weithgareddau ac yn trefnu ymweliadau ag amrywiol leoedd diddorol a hwyliog.
Mae angen pecyn bwyd ar gyfer pob un o’r sesiynau clwb gwyliau uchod.
CLWB AR ÔL YSGOL
Rydym yn codi plant o ysgolion ardal Bangor a rhai ardaloedd cyfagos, yn ddibynnol ar argaeledd.
Unwaith eu bod yn ôl yn y Clwb Ar Ôl Ysgol, gall y plant ddewis ymlacio ar ol ddiwrnod prysur yn yr ysgol neu ddewis o ystod o adnoddau i’w cadw’n brysur. Mae gennymdeledu, gemau cyfrifiadurol, amrywiaeth o deganau adda ar gyfr eu hoedran, gemau a phosau, defnyddiau celf a chrew a mwy.
Mae plant y Clwb Ar Ôl Ysgol hefyd yn cael mynediad i’r man chwarae (os yw’r tywydd yn caniatau).


CLWB BRECWAST
Rydym ar agor o 7.30 y.b. ac, yn ddibynnol ar argaeledd, i gludo plant i’r ysgol yn ardal Bangor ac ambell ardal arall. Rydym yn cynnig brecwast iachus i sicrhau bod plant yn barod ar gyfer y diwrnod o’u blaenau.