Gofal Plant o Safon Uchel
Mae Busy B’s yn darparu gofal plant o safon uchel mewn amgylchedd diogel, meithringar ac ysgogol, gan roi blaenoriaeth i ddatblygiad, anghenion a hapusrwydd y plant a’u teuluoedd.
Agorwyd Busy B’s gyntaf ym mis Gorffennaf 2007 gan Justine Burley sy’n lleol ac yn nyrs feithrin gymwysiedig a phrofiadol ac sydd hefyd yn fam i dri o blant.
Mae Busy B’s wedi ei chofrestru efo’r AGC i ddarparu gofal ar gyfer 43 o blant rhwng 3 mis a deuddeg mlwydd oed.
Mae Busy B’s yn amgylchedd perffaith i’ch rhai bach chi dyfu ynddo.

Cymwys
Mae ein staff yn dal cymwysterau gofal plant cydnabyddiedig, neu’n gweithio tuag atynt, dan arweiniad ein staff hŷn.

Datblygiad
Mae ein gorchwylion arferol i gyd wedi eu trefnu’n ofalus a’u strwythuro i weddu i oedran a cham datblygiad eich plentyn.

Hwyl
Rydym yn rhoi gwerth mawr ar yr egwyddor o ddysgu trwy chwarae.